Rhaglen Dawns Arts Care Gofal Celf
Mae Arts Care Gofal Celf Dawns yn cydlynu a darparu prosiectau dawns o ansawdd uchel, gweithgareddau a gweithdai ar gyfer pobl o bôb oed, gallu a chefndir, drwy weithio gyda’n tîm amrywiol o Artistiaid Dawns Broffesiynol hyfforddedig a phrofiadol. Mae’n cynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn dawns boed am hwyl, iechyd a lles, rhyngweithio cymdeithasol neu fwynhad creadigol neu fel llwybr i yrfa broffesiynol.
Dilynwch ein newyddion Dawns diweddaraf ar Facebook
Mae Arts Care Gofal Celf yn cynnal dawnswyr, ymarferwyr ac athrawon sydd â diddordeb mewn datblygu dawns ym meysydd addysg a pherfformio, a gyda chymorth y gronfa gyfredol (sy’n ehangu drwy’r amser) o Artistiaid Dawns Gysylltiol brofiadol, wedi’i hyfforddi’n broffesiynol, mae ACGC wedi ymrwymo i gyflwyno rhaglen ddawns newydd a chyffrous, wrth godi proffil Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar nifer o brosiectau mewn partneriaeth â sefydliadau eraill megis Touch Trust, Hijinx a Hamdden Sir Benfro.
Mae Arts Care Gofal Celf yn medru darparu:
Sesiynau blasu dawns, i adnabod anghenion a diddordeb ar gyfer darpariaeth dawns bellach yn ysgolion;
Sesiynau dawns Greadigol gysylltiedig â’r cwricwlwm;
Hyfforddi Athrawon Diwrnodau Dawns ar gyfer ysgolion unigol neu ysgolion clwstwr;
Adnoddau Dawns teilwra i gwrdd ag anghenion plant ysgolion unigol;
Gweithdai dawns gynhwysol ar gyfer plant;
Un ar un gweithdai dawns a symud ar gyfer plant ag anawsterau dysgu & anableddau;
Gweithdai Touch Trust, yn benodol ar gyfer plant sydd ag anableddau lluosog & dwys;
Dosbarthiadau dawns arddulliedig dim ond am hwyl, mwynhad, iechyd a lles ar gyfer staff o fyfyrwyr / plant.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a Arts Care Gofal Celf ar 01267 243815 neu ebostiwch angharad@acgc.co.uk or ashley@acgc.co.uk