O’i ddechreuad yn y sector iechyd meddwl, mae Arts Care Gofal Celf wedi datblygu cysylltiadau cadarn gydag ystod eang o fudiadau’r sector stadudol a gwirfoddol sy’n gweithio gyda phobl difreintiedig ar draws Gorllewin Cymru.
Credwn fod cymryd rhan yn y celfyddydau yn gallu bod o fudd mawr wrth ystyried problemau iechyd, cymdeithasol ac economaidd unigolion a chymunedau, ac mae gennym brofiad o weithio gyda phobl sy’n dioddef o broblemau iechyd corfforol a meddyliol, camddefnyddio sylweddau, troseddwyr, pobl anabl, ieuenctid a phobl hŷn, ymysg eraill.
Rydym wastad yn awyddus i drafod syniadau am brosiectau gyda phartneriaid posib ac i gynnig cyngor ar ba weithgareddau ac artistiaid a fyddai’n ateb eich gofynion yn y ffordd orau.
Os hoffech chi drafod eich syniadau ar gyfer prosiect cliciwch yma os gwelwch yn dda.


