Mae Arts Care Gofal Celf yn gweithredu er mwyn cyfoethogi bywydau bobl difreintiedig mewn ffordd artistig. Sefydlwyd Arts Care Gofal Celf yn 1986, i gydweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, byrddau ac ymddiriedolaethau a mudiadau stadudol a gwirfoddol eraill i hyrwyddo hyfforddiant a gweithgareddau ym maes y celfyddydau iechyd ar gyfer bobl difreintiedig, a’r rhai sy’n eu cynnal.

Yn gwmni cyfyngedig drwy warant ac yn elusen gofrestredig, ariennir ACGC gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Gan weithio’n bennaf (ond nid yn unig) yng Ngorllewin Cymru, mae ACGC wedi datblygu cryn fedrusrwydd mewn llunio prosiectau arbenigol ar gyfer ei glientod niferus.

Mae ACGC wedi llunio rhestr unigryw o ymarferwyr proffesiynol sy’n gyfrifol am gyflawni’r gweithgareddau, a sy’n meddu ar sgiliau sy’n cwmpasu holl rychwant celf, o’r gweledol i grefftau, o’r celfyddydau perfformio hyd at ysgrifennu.

Gan fod gan ACGC cymaint o brofiad o ddatblygu rhaglenni celf ym myd iechyd a lles, y celfyddydau ac adfywiad, y celfyddydau a chynhwysiant cymdeithasol ac yng nghyd-destunau eraill, gallwn eich helpu i ddatblygu prosiectau sy’n cwrdd â’ch gofynion chi

Am ragor o wybodaeth ynghylch ACGC, e-bostiwch yma os gwelwch yn dda


 

Gwerthwch eich nwyddau nad oes eu hangen ar eBay a chodwch arian ar gyfer Arts Care Gofal Celf. Mae eBay for Charity yn eich caniatáu i restru eitemau ar eBay a rhoi 10-100% o'r pris gwerthu terfynol i ni - mae mor hawdd â hynny. I ddysgu mwy am sut y gallwch gefnogi elusennau ar eBay, ewch i www.ebay.co.uk/charity


I werthu eitemau nawr ac i gyfranu i ni, cliciwch yma