Mae Arts Care Gofal Celf yn datblygu, rheoli ac yn
cynnig prosiectau a gweithdai celf mewn sefyllfaoedd amrywiol, gan
gynnwys gwaith iechyd a lles, addysg, gyda grwpiau ieuenctid a
chymunedol, pobl hŷn, pobl anabl, mewn gwyliau ac ar gyfer pobl sydd
wedi eu heithrio’n gymdeithasol.
Gallwn gynnig gweithdai a phrosiectau sy’n cwmpasu
ystod eang o ffurfiau celf, ac fe restrir y rhan fwyaf ohonynt yn yr
adran ffurfiau celf. Rydym wastad yn hapus i drafod gyda chi, ac
i ddatblygu prosiect sy’n defnyddio’r ffurfiau celf a’r artistiaid sydd,
yn ein tyb ni’n, fwyaf tebyg o wireddu’ch nodau penodol chi.
Mae gennym fas-data cynhwysfawr o artistiaid llawrydd sy’n meddu ar amryfal sgiliau a byddwn yn gallu darparu rhywun i redeg eich prosiect er budd eich grŵp chi.
Bydd aelod o staff ACGC yn rheoli pob prosiect – yn cyd-lynnu partneriaid ac artistiaid, llunio cytundebau, monitro a gwerthuso cynnydd, ac ar gael i drafod unrhyw fater neu broblem a fydd yn codi.
Nid yw hi fel arfer yn bosib i ACGC gyllido prosiectau i fudiadau eraill, ond gallwn gynnig cyngor ar faint fydd prosiect yn debygol o gostio, ffynonellau ariannu posib ac o bryd i’w gilydd gallwn gynnig help ar sut mae llunio cais am gyllid ar ran mudiadau eraill.


