Arts Care Gofal Celf  |  Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3QE  |  01267 245641 |  info@acgc.co.uk


Hafan | Pobol | Gwasanaethau | Newyddion | Prosiectau | Partneriaid | Artistiaid | Dawns | Digwyddiadau | Cysylltwch | Rhestr Bostio | English |

Dawns

Rhaglen Ddawns ACGC
Erbyn hyn, Arts Care Gofal Celf yw’r corff ymbarel ar gyfer dawns yn Sir Gaerfyrddin ac yn Sir Benfro a ‘rydym wrthi’n datblygu’n rhaglen ddawns newydd gyffrous a fydd yn cynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn ystod o ddosbarthiadau dawns amrywiol, rhaglenni dawns cyson, prosiectau dawns a MultiArts a chyfnodau hyfforddi preswyl ar draws y ddwy sir wledig, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin.

Dawnswyr Cysylltiol ACGC
Mae Arts Care Gofal Celf wedi ymrwymo i gynnal y ddarpariaeth ddawns a’r ymarferwyr dawns sydd eisoes yn bodoli ac wedi’i sefydlu ar draws Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin ac yn anelu at ddatblygiad pellach o’r ddarpariaeth ddawns yma o safon uchel ar draws y cymunedau yn y ddwy sir hon.

Mae Arts Care Gofal Celf yn cynnal dawnswyr, ymarferwyr ac athrawon sydd â diddordeb mewn datblygu dawns ym meusydd addysg a pherfformio, a gyda chymorth y gronfa gyfredol (sy’n ehangu drwy’r amser) o Artistiaid Dawns Cysylltiol profiadol, wedi’i hyfforddi’n broffesiynol, mae ACGC wedi ymrwymo i gyflwyno rhaglen ddawns newydd a chyffrous, tra’n codi proffil Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

I ymweld a meicrowefan Dawns Arts Care Gofal Celf Dance pwyswch yma

 

 

 





































Hafan | Pobol | Gwasanaethau | Newyddion | Prosiectau | Partneriaid | Artistiaid | Dawns | Digwyddiadau | Cyswllt  | Rhestr Bostio | English

2012 © Arts Care Gofal Celf
Y Llwyfan | Heol y Coleg | Caerfyrddin | SA31 3QE | 01267 245641 |
info@acgc.co.uk
Cwmni Gofrestredig Rhif: 2864166  Elusen Gofrestredig Rhif: 1050273
 

    

   

Bookmark and Share