Ffurfiau
Celf Arbenigol
Jyglo | Sgiliau’r Syrcas | Ioga
Proffil yr Artist
Mae Iogan’n annog pobl i edrych yn fewnol am atebion i broblemau
corfforol ac emosiynol; mae’n helpu canolbwyntio ac ymlacio, ac yn codi
lefelau egni. Mae buddiannau tebyg yn dod o jyglo a sgiliau syrcas ac
maent yn gallu helpu codi hunan-hyder. Gan fy mod wedi cael fy ysbrydoli
gan jyglwyr, clowniau a iogïau (yn y gorffennol) dw i’n mwynhau
trosglwyddo’r sgiliau hyn i eraill, ac wedi gweithio’n helaeth mewn
ysgolion a gyda grwpiau anghenion arbennig yng Nghymru. Mae creu ‘syrcas
ar y pryd’ yn annog gwaith tîm a sgiliau perfformio – ac mae’n llawer o
hwyl.
Bywgraffiad Artist
1977-87 canwr a gitarydd mewn bandiau pync a bandiau arbrofol.
1987-96 Ymarfer ioga, dysgu jyglo, perfformio mewn theatr stryd ledled
Ewrop a theithio gyda’r syrcas.
1997-2001 Siapan; teithio yno chwe gwaith, gan gyflwyno sioeau jyglo ar
y stryd.
2001 Treulio mwy o amser gartref gyda’r teulu, symud o berfformio at
ddysgu ioga a sgiliau syrcas. Hefyd cymhwyso fel hyfforddwr pêl-droed a
sboncen.



